Rydym yn falch iawn o’ch croesawu i’n gwefan Canolfan Datblygu Hyfforddwyr. Ein gweledigaeth yw darparu llwybr clir a thrawsnewidiol, sy’n caniatáu i hyfforddwyr ddatblygu a gwireddu eu potensial i ddarparu tennis i bawb ledled Cymru.
Gosodwyd mesurau sylweddol a phriodol i sicrhau diogelwch y tiwtoriaid a phawb sy’n mynychu’n cyrsiau datblygu hyfforddwyr.
- Cynlluniwyd sesiynau gan ystyried trefniadau eistedd a gweithgareddau sy’n debygol o’i gwneud hi’n haws cadw pellter cymdeithasol.
- Bydd y sesiynau â chymarebau sy’n cydfynd â’r canllawiau cyfredol yn nhermau maint grwpiau a lleoliadau.
- Cedwir cofrestrau o’r holl fynychwyr at ddibenion profi, olrhain a diogelu (casglu data profi, olrhain, diogelu) Ceir gwybodaeth am y broses profi, olrhain, diogelu yma.
Mae diogelwch ein cyfranogwyr yn ystod cyrsiau datblygu hyfforddwyr yn flaenoriaeth inni, a byddwn bob amser yn cadw at ganllawiau COVID-19 cyfredol y Llywodraeth. Cliciwch yma i weld canllawiau ac adolygiad COVID-19 diweddaraf Tennis yng Nghymru.
CYMWYSTERAU HYFFORDDI
*gofynnol ar gyfer pasio’r cyrsiau Cyfarwyddwr a Hyfforddwr
DATBLYGU HYFFORDDWYR
Cynhadledd Hyfforddi Tennis Cymru
Mynychwch ein cynhadledd genedlaethol flynyddol.
Rhwydwaith Hyfforddwyr
Ymunwch â ni i rwydweithio’n rheolaidd ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Lleoliadau Hyfforddwyr
Dewch o hyd i leoliad tennis lleol i ddatblygu’ch sgiliau hyfforddi.
Cyflwyniad i Cynorthwydd LTA
Cyfle i gael hyfforddiant i gynnal cystadlaethau lleol yn eich lleoliad.